Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (51) |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.16(i), gwnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad llafar y Llywodraeth heb hysbysiad.
4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4, 7, 9 a 10. Ni ofynnwyd cwestiynau 5 a 6. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NNDM4863
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.
Gyda chefnogaeth:
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4930 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf.
2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.
3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor.
4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2 y cant ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf.
5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.
Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.
Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5 a 6 eu dad-ddethol.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4930 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.
2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.
3. Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.
5. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.
6. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.
7. Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Pwynt o Drefn
Cododd Ann Jones bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9 ynghylch y defnydd o iaith briodol yn y Siambr. Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd fod y defnydd o "crony" yn cael ei ystyried mewn trefn fel arfer oni bai fod y cyd-destun yn gwneud i’r ystyr ymddangos yn waeth. Cytunodd i adolygu’r Cofnod gan nodi y bydd ef neu’r Llywydd yn dyfarnu ar y mater, os bydd angen.
7. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17:05.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
20 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch, i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
4. Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM4929 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
“Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol sydd â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio gwrando ar eu hathro mewn ystafell ddosbarth sydd ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.04
Daeth y cyfarfod i ben am 18:27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, dydd Mawrth, 13 Mawrth 2012